Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan gadd e grefydd. Yn ffordd y byd o edrych ar bethe, ni fu e 'rioed yn ddyn drwg, a 'doedd fawr o eisie crefydd arno. 'Welodd neb e 'n feddw, 'roedd e 'n un o'r bugeilied gore ar stad Syr Watcyn, a mi fedre gario dime ar 'i law trwy bob ffair a marchnad yng Nghymru. Yn Niwygiad Beddgelert y cadd e e 'i achub. Un o blant Diwygiad Wmffre Jones a Dafydd Morgan yn '59 oedd nhad, ac mi ddath mor debyg i nhadcu a phetai wedi 'i boeri. A dyma finne, y llai na 'r lleia', wedi 'nal yn Niwygiad 1904. Mi fase 'n dywyll fel y fagddu ar ein teulu ni, a phawb sy 'n byw ar y cyrre, onibai am Ddiwygiade. 'Wn i fawr am eich enwad chi, syr. 'Gadd e lawer o'r Diwygiad?

Do, dipyn, Wmffre, eithr nid cymaint â'r Methodistiaid Calfinaidd."

"Ma' nhw'n dweud bod gennych chi bregethwyr campus. Ma John Evans, Eglwysbach, wedi marw, ond yw e? Dyna bregethwr! Champion! Piti garw iddo farw mor gynnar. Mi clywes i e unwaith, a chlywes i ddim byd tebyg cynt na chwedyn. Mi gredes yn 'y nghalon fod Diwygiad yn dwad fel cawod o law trane y noson honno. Ond 'dydi pob pregethwr sy gennych chithe ddim i fyny â'r Eglwys— bach. 'Rwy'n cofio 'mod i yn nhre Llaniwan unwaith, a diwrnod ffair oedd hi. 'Doedd dim llawer o fynd ar y defed, a methes inne â gwerthu y rhai oedd genny hyd ymhell yn y prynhawn, ac aeth yn rhy hwyr imi fynd adre. Gorfu i Huw'r Foel a finne letya mewn tŷ tafarn o'r enw Bliw Bel—'doedd yr un tŷ dirwest yn y dre yn rhoi lle i bobol gysgu. Wel, i chi, min nos