ati i ferwi llaeth enwyn a rosmari ynddo. Gwnaed tân mawr a rhoddi 'r hogyn mewn gwrthban i orwedd ar wely milgi[1], a bûm inne yn 'i wylio trwy 'r nos. Pan ddaeth e ato 'i hun, cawsom beth o 'i hanes. Bachgen o'r wlad isa' oedd e, wedi 'i ddal yn potsio a chymryd 'i drad. Pan ddealles hynny, mi gymes ato mewn wincad. 'Roedd gen i ar y pryd ddigon o waith i ddau ar y lluest 'ma, a mi cadwes e dipyn, ac yma y bu e byth. 'Doedd ar fynydd na dôl well hogyn nag Edwin. 'Roedd e 'n dipyn o fardd, ac yn darllen toreth—'i lyfre ef yw rhein a welwch chi yn y cwpwrdd bach. 'Roedd pawb yn 'i nabod e, ac yn 'i barchu e hefyd, achos 'welodd neb e erioed tra bu e yma yn poeri ar 'i bilyn. Yn 1913, mi gymrodd Luned, y Foel, yn wraig, a daeth â hi yma. Yr oedden ni 'n tri mor hapus â'r gog, a llond tŷ o ganu, a 'chlywodd yr hen fynyddoedd yma erioed gymaint o ganu, a chanu mor felys, ag a glywsent hirnos gaea' gan Edwin a Luned yn Lluest Hir. Ond, ond, disgynnodd arnom felltith y byd—daeth y Rhyfel Mawr, a galw ar Edwin, druan. Dyna ben ar bopeth yma, syr: caeodd y nos am y Lluest, a pheidiodd y canu; ni ddaeth gwawr mwyach, ac ofnaf na ddaw byth mwy. Rhyw fore, ymhen tua blwyddyn, daeth imi lythyr o Swyddfa 'r Rhyfel, yn dweud bod Edwin ar goll. Yn fuan wedyn cefais air oddi wrth filwr caredig yn dweud ei fod gydag ef hyd y diwedd, a gweled ei gladdu yn naear Canaan.
- ↑ Hearthrug.