Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VII
TWM PEG

DIGWYDDODD imi orfod am rai blynyddoedd deithio o Dreharris i Fedlinog ar noson waith unwaith yn yr wythnos, haf a gaeaf, ac i'r diben o fyrhau'r daith, yn garedig iawn caniatâi goruchwyliwr y pwll imi groesi'r 'gwaith' ymlaen ac yn ôl. Wrth y drws sydd ym mur y gwaith' y mae lodge y watchman, ac nid euthum adref erioed yn y nos heb alw yn y lodge honno, a threuliais ddegau o oriau ynddi yn ymgomio â Thwm Peg a oedd yn wyliwr y nos. Yr oedd Twm a minnau yn gwbl wahanol i'n gilydd, ac o ran hynny, yr oedd Twm yn wahanol i bawb, a'r gwahaniaeth hwnnw a barodd inni ddyfod yn gymaint cyfeillion.

Ni wn ddim am dras Twm, ond credaf ei eni, rywbryd ymhell yn ôl, naill ai ym Merthyr neu Ddowlais, oblegid soniai lawer am ei ddyddiau bore yn ardaloedd y trefi hynny. Ni wn chwaith ei enw bedydd; y mae'n debyg iddo gael un, oblegid yr oedd tros ganol oed pan roddwyd yr enw Twm Peg iddo. Nid yw gwybod yr achau a'r amgylchiadau yn angenrheidiol i'r cofiant hwn; y dyn ei hun—darn