cryf o hen oes baganaidd ym Morgannwg heb newid dim arno gan ddatblygiadau'r blynyddoedd—a barodd i mi ei hoffi.
Dyn cymharol fyr—rhyw bump a phump—oedd fy hen gyfaill; pen crwn fel pelen ag ychydig wallt yn fargodion iddo; llygaid mawr ar dor y croen, yn llawn dur, heb lawer o ddim arall ynddynt, ac yn eich herio bob amser; wyneb cryf â'i groen yn arw ac o liw hen femrwn a fuasai yn un o feddau'r Aifft am ganrifoedd; ffroenau agored yn cyfateb i linellau eraill yr wyneb; ceg fawr â dau ddant llygad melyn-ddu ynddi; dwy wefus drwchus fel petynt wedi chwyddo wrth fwyta ac yfed i ormodiaeth ym mlynyddoedd cyntaf ei oes, a gên lydan â'i nerth yn gymaint fel na ellid ond ei ddychmygu. Yr oedd corff yn un trwchus a thrwm a chadarn, a'r goes dde yn bren—peg—o'r pen-glin i lawr, a chylch haearn ar ei blaen.
Ni welais Twm erioed yn unman ond yn y lodge, a'r argraff sydd ar fy meddwl yn awr yw, ei fod un wisg ar hyd y blynyddoedd; gwisg heb iddi liw yn y byd ond lliw henaint, ac nid oedd amdano ddau bilyn o'r un defnydd. Ar ei ben, yn tynnu at y gwegil, yr oedd hen gap o frethyn; mwffler gwlân llychlyd yn llac am ei wddf, haf a gaeaf; dwy wasgod o stwff trwm, a'r uchaf â llewys iddi, a phob amser yn agored ac yn dangos crys trwchus a garw o wlanen cartref; ffustion oedd defnydd ei lodrau, a'i esgid o ledr cryf a chaled, tebyg i'r esgidiau a werthid yn rhad fel gweddillion y Rhyfel Mawr.