Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a halio; ond mynnai i bawb gredu ei fod yn gymaint campwr ar ddarllen, ac yn enwedig ar ddarllen y Beibl, ag ydoedd yn y tri gorchwyl arall. Yr oedd yn drigain oed pan ddysgodd ddarllen, a hyd y gwelais i, ychydig a ddysgodd, ond yr oedd fel y mwyafrif o'r sawl sy'n hynod anwybodus yn gwbl hunan—hyderus, ac yn bendant ei farn a'i ymadrodd.

Pa fodd y treuliwch holl oriau'r nos yn y lodge yma, Tomos?" gofynnais iddo unwaith. "Darllan,' meddai, gan gydio yn y llyfr a oedd yn ei ymyl. "Darllan, darllan y Beibl. Grendwch." Agorai'r llyfr, bron ohono'i hun, ar Efengyl Ioan, a darllenai Twm y bennod gyntaf; âi ymlaen yn rhwydd a rhugl hyd y bymthegfed adnod, ac yna, arafu, cloffi, hercian, ac nid oedd ddewin a wyddai pa beth a ddarllenai oddi yno i'r diwedd. Darllenodd y bennod hon ddegau o weithiau, o dro i'w gilydd, i brofi ei ddawn fel darllenwr.

Ni wn pa un ai i afiaith ei feddwl—y peth a eilw'r Sais yn humour—neu ynteu i hunan—hyder a phendantrwydd a godai o'i anwybodaeth a'i unplygrwydd y dylid priodoli llawer o'i ddywediadau. Llefarai'n oraclaidd bethau cyfeiliornus ac anhygoel. Gofynnais iddo unwaith pwy oedd yr Ioan a ysgrifennodd yr Efengyl, ac atebodd yn ddibryder, Y bachan y torrws Pharo 'i ben a am iddo 'wêd rhwpath yn erbyn i wejan a; sgrifennws y llythyr o'r jail at i wraig.'

"Tybed eich bod yn gywir, Tomos," meddwn innau, yr oeddwn i'n meddwl taw Herod a dorrodd ben Ioan."