Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hen Gyrnol.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byddai'n anodd taro ar fro brydferthach na'r un y ceir Bryn Bedw, cartref Huw Llywarch, ynddi. Y mae Cwm-y-Nant-Lefn gerllaw, ac nid oes ddim o'i faint yng Nghymru cyn llawned o ramant. Eithr ni theimlai ac ni welai Huw ogoniant Natur. Un llygad oedd i'w enaid, a hwnnw wedi ei ddysgu i fod yn ddall at bopeth ond golud; nid oedd iddo ond un nwyd fawr a chref a didrugaredd a dorrai ar draws a thrwy bopeth at ei nod.

"A wyddoch chwi beth, Huw Llywarch," meddwn wrtho ryw dro, "chwi ddylech fyw yn ddedwydd iawn mewn lle fel hwn; ni welais yn fy myw olygfa harddach. Y mae'r cerddin tan eu blodau, a daw'r criafol melyn a choch yn y man, a thlysed drain gwynion y perthi yma. Sylwch ar y bedw draw yn ymyl plas Bro'r Drain; mor fonheddig ydynt a'r haul yn chwarae yn eu manddail—clywch ganu'r adar!" "Twt, twt," meddai Huw, " y mae'r lle yn burion i ddyn ar 'i ore, ond 'chewch chi ddim o'r tir yma ond a roddwch ynddo."

Saif y tyddyn ar benelin i'r ffordd sydd yn arwain i'r Cwm, ac yno tan y coed rhed y nant yn llyfn a thawel. O droi i'r aswy culhâ'r cwm a thywys am ddwy filltir hyd at raeadr mawr ac ysblennydd. O boptu ymgyfyd mynyddoedd mwy unionsyth na dim a welais yn unman, a gwisgir hwy o'u godre i'w brig â phrysglwyni a choed. Dywaid rhai nad oes yng Nghymru ddim mor debyg i olygfeydd Switzerland â'r ddwy filltir hyn.