Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Cymru, yn ogystal â phlant ysgol, wedi'm helpu innau i wneud y casgliad hwn. Cyhoeddwyd casgliad Ceiriog wedi hyn yn "Oriau'r Haf." Nid oes ynddo ddim o gerddi hwian y De. Cyhoeddodd Cadrawd rai o gerddi hwian Morgannwg yn ei "History of Llangynwyd Parish" yn 1887. "Yn ddiweddarach cyhoeddwyd casgliad gyda darluniau prydferth yng Nghonwy,[1] a chasgliad gan Cadrawd gyda cherddoriaeth o drefniad Mr Harry Evans ym Merthyr Tydfil.[2]
Nid y lleiaf o arwyddion da am ddyfodol Cymru yw bod yr hen hwiangerddi swynol hyn i'w clywed eto yn ei chartrefi ac yn ei hysgolion.
OWEN M. EDWARDS.