Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXX Ianto

CARREG o'r Nant,
Wnaiff Iant;
Carreg o'r to,
Wnaiff o—
Ianto.


XXXI Deio Bach

DEIO bach a minne
Yn mynd i werthu pinne;
Un res, dwy res,
Tair rhes am ddime.



XXXII Y Bysedd

MODRYB y fawd,
Bys yr uwd,
Pen y cogwr,
Dic y peipar,
Joli cwt bach.



XXXIII Holi'r Bysedd[1]

"DDOI di i'r mynydd?" meddai'r fawd,
"I beth?" meddai bys yr uwd;
"I hela llwynog" meddai'r hir-fys;[2]
"Beth os gwel ni?" meddai'r canol-fys;
"Llechu dan lechen" meddai bys bychan.


  1. Cyffyrddid â’r fawd a’r bysedd wrth enwi pob un.
  2. Os dymunid gwneud y ddrama yn fwy cyffrous, dywedid yma,—"I ladd defaid." Yr oedd crogi am ddwyn defaid.