Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXXIV Rhodd[1]

BUARTH, baban, cryman, croes;
Modrwy aur i'r oreu 'i moes.


XXXVI XXXVII I'r Ysgol

MI af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw;
Heibio'r Castell Newydd,
A'r cloc yn taro naw;
Dacw mam yn dyfod,
Ar ben y gamfa wen,
"A rhywbeth yn ei barclod,
A phiser ar ei phen.

Mi af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw,
Heibio'r Sgubor Newydd,
A'r cloc yn taro naw;
O, Mari, Mari, codwch,
Mae heddyw'n fore mwyn,
Mae'r adar bach yn canu,
A'r gog ar frig y llwyn.



XXXVII Lle Difyr

MI fum yn gweini tymor
Yn ymyl Ty'n y Coed,
A'dyna'r lle difyrraf
Y bum i ynddo 'rioed;
Yr adar bach yn canu,
A'r coed yn suo ynghyd,--
Fy nghalon fach a dorrodd,
Er gwaetha rhain i gyd.


  1. Rhoddid blaen gwialen yn y tân, a throid hi'n gyflym i ddarlunio buarth, cryman, &c., wrth ddweyd y geiriau.