Prawfddarllenwyd y dudalen hon
LXXXII. CWCH BACH,
CWCH bach ar y môr,
A phedwar dyn yn rhwyfo;
A Shami pwdwr wrth y llyw
Yn gwaeddi," Dyn a'n helpo."
LXXXIII. GLAN Y MOR.
MAE gen i dy bach del,
O dŷ bach del, O dy bach del,
A'r gwynt i'r drws bob amser;
Agorwch dipyn o gil y ddôr,
O gil y ddôr, o gil y ddôr,
Cewch weld y môr a'r llongau.
LXXXIV. DWR Y MOR.
IOAN bach a finnau
Yn mynd i ddwr y môr;
Ioan yn codi 'i goesau,
A dweyd fod dŵr yn oer.
LXXXV. TRI.
TRI graienyn, tri maen melin,
Tair llong ar fôr, tri môr, tri mynydd ;
A'r tri aderyn a'r traed arian,
Yn tiwnio ymysg y twyni mân.
LXXXVI. WEDI DIGIO.
MAE fy nghariad wedi digio,
Nis gwn yn wir pa beth ddaeth iddo ;
Pan ddaw'r gwibed bach a chywion,
Gyrraf gyw i godi ei galon.