LXXXVII. CARN FADRYN.
MI af oddiyma i ben Carn Fadryn,
Er mwyn cael gweled eglwys Nefyn ;
O ddeutu hon mae'r plant yn chware,
Lle dymunwn fy mod inne.
LXXXVIII. SIGLO'R CRYD.
SIGLO'R cryd â'm troed wrth bobi,
Siglo'r cryd â'm troed wrth olchi ;
Siglo'r cryd ymhob hysywaeth,
Siglo'r cryd sy raid i famaeth.
LXXXIX. Y LLEUAD.
MAE nhw'n dwedyd yn Llanrhaiad,
Mai rhyw deiliwr wnaeth y lleuad;
A'r rheswm am fod goleu drwyddo,
Ei fod heb orffen cael ei bwytho.
LXL. COES UN DDEL.[1]
COES un ddel, ac hosan ddu,
Fel a'r fel, fel a'r fu;
Fel a'r fu, fel a'r fel,
Ac hosan ddu coes un ddel.
LXLI. Y BRYN A'R AFON.
Y BRYN, " Igam Ogam, ble'r ei di ?"
Yr Afon," Moel dy ben, nis gwaeth i ti."
Y Bryn, Mi dyf gwallt ar fy mhen i
Cyn unioni'th arrau ceimion di."
- ↑ Gellir trefnu geiriau'r pennill mewn llu o ffyrdd.