Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd

Ambell orig daw hen hwiangerdd, fel su melodaidd o gartref pell a hoff, i'r meddwl. Daw un arall ar ei hol, ac un arall, - a chyda hwy daw atgofion cyntaf bore oes. Daw'r llais mwynaf a glywsom erioed i'n clust yn ôl, drwy stormydd blynyddoedd maith; daw cof am ddeffro a sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd. A daw ymholi ond odid.

Beth yw tarddle swyn yr hen gerddi hwian syml hyn? Pa nifer ohonynt fedraf? Pa nifer sydd ohonynt yn llenyddiaeth Cymru? A ydynt yn llenyddiaeth? Beth fu eu dylanwad ar fy mywyd? A adawsant ryw nod ar lenyddiaeth Cymru?

O ble y daethant? Y mae iddynt ddau darddiad. Yn un peth, - y maent yn adlais o ryw hen bennill genid gyda'r delyn. Cofid y rhannau mwyaf melodaidd, rhyw seiniau fynnai aros yn y glust, gan fam neu forwyn, a byddent yn llais i lawenydd y galon wrth suo'r plentyn i gwsg. A ffynhonnell arall, - yr oedd y fam yn creu cerddi hwian, nid i wneud i'r plentyn gysgu, ond i'w gadw'n ddiddig pan ar ddihun. Ac y mae cof gwlad wedi trysori ymgais y mamau mwyaf athrylithgar.