Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechrau. Hwy ddefnyddia'r fam yn deganau cyntaf. Rhoddir enwau arnynt, - Modryb 'y Mawd, Bys yr uwd, Hirfys, Cwtfys, Bys bach, neu ryw enwau eraill. Gwneir iddynt

chware a'i gilydd; llechant yng nghysgod ei gilydd, siaradant a'i gilydd; ant gyda'i gilydd i chware, neu i hel gwlân, neu i ladd defaid i'r mynydd. Yr oedd yr olaf yn fater crogi'r adeg honno, ac felly yr oedd y chware yn un pur gyffrous. Yr oedd i bob bys gymeriad hefyd; bys yr uwd oedd y cynlluniwr, yr hirfys oedd y gweithiwr cryf eofn, y cwtfys oedd y beirniad ofnus, a'r bys bach, druan, oedd yn gorfod dilyn y lleill neu gario dŵr. Yn llenyddiaeth gyntaf plentyn, y bysedd yw'r actors yn y ddrama.

Wedi'r bysedd, y traed oedd bwysicaf. Eid trwy'r un chware gyda bysedd y traed drachefn. A difyr iawn oedd pedoli, curo gwadnau'r traed bob yn ail, a phedoli dan ganu.

Nodwedd bennaf plentyn iach, effro yw, nas gall fod eiliad yn llonydd. Mae pob gewyn ynddo ar fynd o hyd. Ac y mae mynd yn yr hen hwiangerddi. Gorchest arwrol gyntaf plentyn yw cael ei ddawnsio'n wyllt ar y glin. "Gyrru i Gaer" yw anturiaeth fawr gyntaf dychymyg y rhan fwyaf o blant Cymru. Ac y mae afiaith mawr i fod ar y diwedd, i ddynodi rhyw drychineb ysmala, - dod adre wedi priodi, boddi yn y potes, neu dorri'r pynnaid llestri'n deilchion. Mae'r coesau a'r breichiau bychain i fynd ar eu gwylltaf, ac y mae edyn man dychymyg y plentyn yn chware'n wyllt hefyd.