Fe allai y gofyna yr ymdrech bump, ddeg, pymtheg, neu ugain mlynedd, cyn y gellir llwyddo. Bydd llawer o waith parotoi yn ddiau; a bydd yn anhawdd argyhoeddi llawer o rïeni, ac ysgolfeistri, a dynion cyhoeddus, o bwysigrwydd yr amcan sydd mewn golwg ; ac nis gellir gwneyd hyn heb argyhoeddiad dwfn o'i werth i'r genedl yn gyffredinol.
Wrth derfynu y llythyr hwn, goddefer i mi ofyn, A ydyw 'plant ysbrydol' Charles o'r Bala yn y dyddiau hyn, ac yn y mater dan sylw, yn feddiannol ar ddwysder teimlad y gwron ei hun-yr hwn y proffesant gymmaint o barch i'w goffadwriaeth?
Yr eiddoch yn gywir,
D. ISAAC DAVIES.
CAERDYDD, Mehefin 6ed, 1885.
LLYTHYR II.
FONEDDIGION,
Yn fy llythyr cyntaf, addewais alw sylw fy nghydwladwyr at eiriau yr enwogion Cymreig, GRIFFITH JONES, O Landdowror, a THOMAS CHARLES, o'r Bala, eu hunain, fel y ceir hwynt yn argraphedig mewn cyhoeddiad Gwyddelig. Cofiwch, gan hyny, ddarllenwyr, mai dyfyniadau fydd y rhan fwyaf o'r llythyr presennol.
Gwrandewch, yn ngyntaf, ar lais y gwroniaid Cymreig. CHARLES o'r Bala, yr ydym yn ddyledus am yr ychydig eiriau a osodir yn ngenau ei flaenorydd:-
'More than 150 years ago, in Wales, the whole country was in a most deplorable state with regard to the acquisition of religious knowledge. For a long time previous, fashionable people had been trying to stamp out the language of the country, and to have the children taught altogether in English. Against these people, and against this state of universal ignorance, the Rev. GRIFFITH JONES, of Llanddowror, was raised up. He asked:-'Should all our Welsh books, and our excellent version of the Bible, our Welsh preaching, and the stated worship of God in our language, be taken away, to bring us to a disuse of our tongue ? So they are in a manner in some places—the more our misery; and yet the people are not better scholars, any more than they are better Christians, for it. Welsh is still the vulgar tongue—and not English. The English charity schools , which have been tried, produced no better effect in country places. All that the children could do in three, four, or five winters—for they could only attend at that period of the year—