trwy ran helaeth o'r Dywysogaeth. Rhifai yr ysgolion hyn 220 cyn iddo farw. Yn mhen rhai blynyddoedd wedi ei farwolaeth, llaesodd y symmudiad am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain, hyd nes yr ail gychwynwyd ef gan y Parch. THOMAS CHARLES, o'r Bala. Mewn llythyr a anfonwyd ganddo yn 1811 at Mr. CHRISTOPHER ANDERSON, eglurai y boneddwr hwn pa fodd y cychwynwyd y symmudiad, a pha fodd y rhoddwyd ail fywyd ynddo. Dengys y llythyr hwn, pa fodd, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, yr achubwyd pobl Cymru rhag myned mor anllythyrenog ag y mae gwerinos arfordir Donegal yn y dyddiau hyn. Yn y modd hwn y cafodd clerigwr tlawd, tua chan mlynedd yn ol, mewn rhanbarth mynyddig o Gymru, y bobl wedi suddo mewn anwybodaeth. Cyfansoddodd lyfrau, dysgyblodd athrawon, sefydlodd ysgolion ; ac yn ystod ei fywyd, gwelodd yr ysgolion wedi cyfodi i'r fath raddau o dan ei ofal meithrinawl, fel, heb y cymmhorth lleiaf gan y llywodraeth, mae iaith y Dywysogaeth, nid yn unig wedi byw a blodeuo, ond wedi ei gwneyd yn offeryn i addysgu y bobl yn briodol:— tra y mae genym ni Fwrdd Addysg Cenedlaethol, yn derbyn rhoddion blynyddol o gannoedd o filoedd o bunnau; a chyda hyn oll, mewn hanner canrif, nis gallent gael cymmaint a llyfr wedi ei gyfansoddi, nac athraw ei ddysgyblu, i ddysgu y cannoedd o filoedd o blant yn y rhanau o'r Iwerddon y siaredir y Wyddelaeg ynddynt ; y rhai sydd wedi tyfu i fyny mewn anwybodaeth mor drylwyr ag yr oedd y plant Cymreig ynddo pan y dechreuodd Mr. JONES ar ei lafur cariad. ... Yr oedd y rhïeni yn Nghymru yn teimlo llawn cymmaint o wrthwynebiad i ddysgu yr iaith Gymraeg ag a deimlai y rhieni yn yr Iwerddon i ddysgu y Wyddelaeg ; ond taflasant eu mympwyon heibio drwy annogaethau y Parch. THOMAS CHARLES, fel y dywed efe wrthym yn mhellach yn y geiriau canlynol:-
'Ar y cyntaf, yr oedd y rhagfarn cryf a ffynai yn gyffredinol yn erbyn eu dysgu i ddarllen Cymraeg yn gyntaf, a'r syniad a gymmerwyd yn ganiataol nad allent ddysgu Saesneg cystal, os wedi eu haddysgu yn flaenorol yn yr iaith Gymraeg, yn graig rhwystr fawr yn ffordd y rhïeni i anfon eu plant i'r ysgolion Cymreig, ynghyd â thŷb ffol arall oedd wedi eu meddiannu; sef, os gallent ddarllen Saesneg y gallent yn fuan, o honynt eu hunain, ddysgu darllen Cymraeg. Ond erbyn hyn, ymwrthodir yn gyffredinol â'r rhagfarnau ofer a disail hyn. Cynnyrchwyd y cyfnewidiad hwn, nid yn gymmaint trwy ddadleu, a thrwy effeithiau daionus amlwg yr ysgolion, yr hyfrydwch mawr a ddangosir gan y plant wrth ddyfod iddynt, a'r cynnydd mawr a wneir ganddynt yn nghaffaeliad gwybodaeth. ... Gyda golwg ar y priodoldeb o ddysgu plant ieuaingc, yn y lle cyntaf, i ddysgu darllen yr iaith a leferir yn gyffredin ac a ddeallir oreu ganddynt, nid oes angen am ei brofi; canys y mae yn eglur ynddo ei hun. Modd bynag, erfyniaf eich sylw am ychydig eiliadau at y manylion canlynol:—
'1. Nid yw yr amser sydd angenrheidiol i'w dysgu i ddarllen y Beibl yn eu mam-iaith ond byr—heb fod dros chwe mis, fel rheol. ... Tuag