Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Iaith Gymraeg 1785 1885 1985.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

at ddysgu Saesneg iddynt, rhaid cael dwy neu dair blynedd o amser. Yn ystod yr adeg hwn, byddant yn ymdrafferthu ynghylch termau sychion—heb dderbyn un syniad tuag at eu diwylliant.

'2. Gan eiriau Cymraeg, trosglwyddir syniadau i'w meddyliau ieuaingc mor gynted ag y gallant eu darllen—yr hyn nad ydyw yn bod pan y dysgir iddynt iaith nad ydynt yn ei deall.

'3. Bydd addysgiad blaenorol yn eu hiaith enedigol yn gymhorth iddynt i ddysgu Saesneg yn nghynt o lawer—yn lle profi yn un math o anghyfleusdra. O hyn yr wyf wedi cael prawfion ar ol prawfion, a gallaf yn y modd mwyaf hyderus sicrhau ei wirionedd. Cymmerais y dull hwn i ddysgu fy mhlant fy hun, er mwyn argyhoeddi y wlad o eudeb y syniad cyffredin a ffynai i'r gwrthwyneb; ac yr wyf wedi darbwyllo eraill i ddilyn fy nghynllun, yr hwn, heb gymmaint ag un eithriad, sydd wedi profi gwirionedd yr hyn yr oeddwn yn credu yn flaenorol oedd yn bod.'

Wele dystiolaeth CHARLES o'r Bala, ger eich bron, O Gymry! Nis gallwn gyttuno yn hollol â phob rhan o honi yn ngoleuni yr ail ran o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er hyny, nid ydyw yn rhyfeddod fod CHARLES, o'r Bala, wedi cael y fath lwyddiant fel addysgwr pan yr ystyrir y pethau canlynol:-

1af, Yr oedd yn barod i roddi heibio bob rhagfarn anghysson â'r ffeithiau a'i amgylchynai. Er fod dysgu Saesneg yn gyntaf yn ol y ffasiwn, dilynodd, yn hytrach, yr hyn a ymddangosai iddo ef fel y llwybr naturiol a chywir, er ei fod yn un anmhoblogaidd.

2il, Cymmerodd drafferth nid bychan i ddangos i rieni fod eu syniadau yn gyfeiliornus, ac ennillodd hwynt i'w farn ei hun.

3ydd, Parotodd lyfrau cymmhwys at y gwaith a gymmerodd mewn llaw.

4ydd, Cododd athrawon pwrpasol at yr amcan mewn golwg.

Pan ddaeth Dirprwywyr y Llywodraeth i'n gwlad, tua deugain mlynedd yn ol, yr oedd yn amlwg iddynt fod y bobl gyffredin wedi derbyn addysg grefyddol dda a sylweddol yn yr iaith Gymraeg. Llwyddodd cynllun CHARLES yn yr hyn a osododd ger ei fron fel y prif amcan. Y gwall ynddo oedd absennoldeb darpariaeth ar gyfer cyfranu gwybodaeth fydol i'r un graddau a gwybodaeth Ysgrythyrol. Ond yn awr, y mae y wlad, yn ol arfer gyffredin, wedi rhedeg o un eithafnod i'r llall, 'Ysgolion Saesnig yn unig,' hyd yn oed yn y manau mwyaf Cymreigaidd:—dyma fu'r arwyddair am y deugain mlynedd diweddaf. Mudiad naturiol iawn ydoedd hwn, yn unol â deddfau ein meddwl ; ond cariwyd ef yn rhy bell. Ond symmud i'r cyfeiriad arall ydyw tuedd y genedl yn ein dyddiau ni. Ni lyngewyd neb yn fwy gan 'yr ysbryd Saesnigaidd' nag ysgrifenydd y llinellau hyn. Nid oes ganddo gareg i'w thaflu at unrhyw