AT FY NGHYDGENEDL.
DAU beth yr ydwyf yn gobeithio am danynt eleni:-
1. Ffurfiad Cymdeithas, er mwyn trefnu moddion i wneyd fath ddefnydd rhesymol o'r Gymraeg yn ein hysgolion o bob gradd ag a duedda i'n codi i safle uwch yn mhlith cenhedloedd eraill.
2. Penderfyniad yn yr etholwyr newydd i beidio anfon unrhyw aelod i'r senedd heb roddi gwybodaeth iddo am ffurfiad y fath Gymdeithas, a bwriad diysgog y genedl Gymreig i sicrhau llwyddiant i'r mudiad cenedlaethol hwn.
'A ydych am i ni bleidleisio dros Gymry yn unig ? medd rhywun. Dim o'r fath beth. Policy gwahanol a lwydda oreu. Pan y bydd Sais, Ysgotyn, neu Wyddel, yn ymsefydlu yn Nghymru, ein hamcan a ddylai fod, i'w ddenu i'n hochr ni. Ein gofyniad a ddylai fod—nid 'A ydych chwi yn medru Cymraeg?' ond 'A wnewch chwi ofalu fod eich plant, eich ŵyrion, a'ch gorŵyrion yn cael cyfleusderau i ddysgu Cymraeg?'
Yn ol pob tebyg, bydd mwy na thair miliwn o bobl yn Nghymru yn 1985. A fyddant hwy oll o deimlad Cymraeg, a lliaws o honynt yn medru Cymraeg ?
Dyna'r nod y carwn i ni, fel cenedl, i ymgyrhaedd ato.
Yr eiddoch yn gywir,
D. ISAAC DAVIES.
LLANGWYDDFAN, LLANDYBIE,
Awst 19eg, 1885.