Wedi tynnu gwersi o'r chwedl, a gofyn i'r plant garu ei gilydd, meddai'r athro,—
"Gwell chwareu nag ymladd."
"Gwnewch dda am ddrwg."
"Gwell goddef cam na'i wneuthur."
"Dysgu'r doeth â gair, dysgu'r ffol â ffon."
Nid yn aml y gwelir cansen yn yr ysgol hon, ond y mae un ar gael os bydd y plant yn mynnu ymddwyn yn anfoesgar. Nid ydynt wedi ei gweld ers amser, ac nid hoff yw'r athro o son am dani; ond ni oddefir ymladd, iaith anweddus, a phethau o'r un natur. Dysgir moes—wersi, a disgwylir i'r plant ymddwyn yn briodol yn yr ysgol, a thra'n chwareu. A dweyd y gwir, cymaint yw'r parch a delir i'r athro, fel na fynn y plant ei ddigio.
Ar ddiwedd y foes-wers, cododd Alun ar ei draed, gan annerch ei athro fel hyn,—
Os gwelwch yn dda, Mr. Gwilym, beth yw'r enw iawn am
"Mewn undeb y mae nerth,"
"Gwell chwareu nag ymladd,"
a brawddegau yr un fath a'r rhai hyn?
MR. G.—Diarhebion, Alun. A wyddoch beth yw dihareb?
ALUN.—Nid wyf yn sicr, ond gallwn feddwl mai llawer iawn o synnwyr ac o wir mewn ychydig o eiriau yw hi.