Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Ysgol Gymraeg.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MR. G.—Ie, dyna hi ar ei phen. Dull pert, twt, o ddweyd peth sy'n wir bob tro. Y mae cannoedd ohonynt yn ein hiaith ni fel mewn ieithoedd ereill; a charwn i chwi gasglu nifer fawr ohonynt a'u dysgu ar gôf. Hen, hen, yw llawer ohonynt, ac y mae swyn rhyfeddol ynddynt.

IORWERTH.—Yr wyf yn cofio, pan losgais i fy mŷs wrth afael mewn haearn poeth yn yr efail, i mi ei daro yn fy nghêg; a dyna Hugh y Gof yn gwaeddi,—"Melys bŷs pan losgo."

WILLIAM.—A phan ddaeth Ifor fy mrawd o'r ffair, a dangos cyllell newydd oedd wedi brynnu, gofynnodd fy nhad iddo faint oedd ei phris. "Deunaw," meddai Ifor. "Wel, byddi yn gallach y tro nesaf, yr wyt wedi rhoi deunaw am gyllell blwm. "Prynnu cath mewn cwd wnest ti."

OLWEN.—Dodais i fy hen ddoli heibio ar ol cael un newydd y Nadolig diweddaf, a dyna mam yn dweyd, "Hardd pob newydd."

CERIDWEN.—Y mae pobl gyfoethog y Plas wedi dod i arian lawer eto ar ol hen ewyrth fu farw yn yr Amerig. "I'r pant y rhed y dŵr."

MR. G.—Pe baech yn gweld dyn ar frys mawr i ddal y trên yn colli ei het, pa un o'r diarhebion a fyddai'n addas i'r tro chwithig?

OLWEN.—"Mwya'r brys, mwya'r rhwystr."

MR. G.—Ie; pe clywech fachgen neu eneth yn dweyd geiriau cas wrth blentyn bach afiach?