AWYR.
TRAETHIR llawer ar Wyddoniaeth yn Gymraeg yn yr ysgol. Heddyw, y testun yw AWYR.
I.
MR. GWILYM.—William, pwyswch y fflasc, ac yna, tynnwch awyr o honi â'r air-pump. (William yn pwyso y fflasc ar y clorian; yna, yn tynnu peth o'r awyr o honi, ac yn dodi "clip" arni). Ail bwyswch y fflasc. (William yn pwyso eilwaith). Beth ydych yn ganfod?
WILLIAM.—Y mae'n ysgafnach, syr.
MR. G.—Paham y mae'n ysgafnach nag o'r blaen?
WILLIAM.—Y mae'n rhaid fod yr awyr dynnwyd o honi yn pwyso rhyw gymaint.
MR. G.—Ie, dyna'r wers. Oes, y mae pwysau mewn awyr. Ac er nad yw yn pwyso llawer ynddo ei hun,— hynny yw, er nad yw llond fflasc fel honna yn pwyso rhyw lawer ar wahan, y mae pwysau mawr iawn yn yr awyr sydd yn ein hamgylchu ni. A wyddoch paham?
MEGAN.—Clywais rywun yn dweyd fod yr awyr sydd o'n hamgylch yn cyrraedd yn uchel, uchel, am rai cannoedd o filltiroedd uwch ein pennau.
MR. G.—Gwir yw hynny. Y mae'r awyr yn haen ar haen am uchder mawr. A dyna paham y mae'n gwasgu cymaint ar yr haen isaf, yr haen sydd o'n