Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Ysgol Gymraeg.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hamgylch ni, am fod pwysau yr haenau ereill i gyd ar y rhan isaf o hono. Y mae'r gwasgiad yn 15 pwys ar bob modfedd ysgwar.

II.

Gwnawn gynnyg arall i geisio dysgu ychwaneg am awyr. Ifor, estynnwch y llestr tin o'r fan draw. Diolch. Dyma i chwi lestr alcam teneu, teneu, a lle i roi corcyn arno. Dodwch ychydig o ddŵr ynddo, a gadewch iddo ferwi yn fywiog am tua deng munud.

(Dau o'r plant yn paratoi y llestr, ac yn ei ddodi i ferwi ar y Bunsen burner). Ar ol iddo ferwi am beth amser, y mae Mr. Gwilym yn ei dynnu oddiar y nwy, ac yn dodi y corcyn arno yn dynn. Yna yn arllwys dŵr oer arno. A dyna'r llestr yn ymollwng i'w gilydd.

Y PLANT.—O, y mae'r llestr wedi torri.

IFOR.—Y mae wedi cael gwasgfa, syr.

MR. G.—Y mae mwy na ffraethineb yn eich dywediad, Ifor, fel y cawn weld cyn y diwedd. Sut y bu hyn, tybed? Gadewch i ni chwilio i mewn i'r achos. Beth wnaethom gyntaf?

MEGAN.—Rhowd ychydig o ddŵr yn y llestr, a dodwyd ef i ferwi yn fywiog am ychydig o funudau.

MR. G.—Beth wedyn?

MEGAN.—Tynnwyd y llestr oddiar y tân, a dodwyd y corcyn arno yn dynn. Yna gosodwyd y llestr o dan y tap dŵr oer.