Y MABINOGION.
I.
GŴYR plant yr Ysgol Gymraeg gryn dipyn am hen chwedlau eu gwlad. Anoga'r athro y plant i'w darllen. Hoff yw efe o ddechreu hanesyn difyr o'r hen chwedlau, a gofyn i'r plant chwilio am y gweddill o hono yn llyfrau y llyfrgell Gymraeg sy'n perthyn i'r ysgol. Rhy anodd yw'r geiriau i'r plant bach eu deall o lyfr, eithr y mae'r plant hŷn yn eu darllen ac yn eu hadrodd wrth eu brodyr a'u chwiorydd yn y tŷ o flaen y tân cyn mynd i orffwys.
Hen, hen yw'r ystraeon a elwir yn Fabinogion. Ystyr yr enw yw chwedlau plant. Adroddwyd hwynt o oes i oes yng nghartref y Brython ers dyddiau cyn hanes; a'r mynachod a'u hysgrifenasant ar lyfr tuag adeg y Norman. Dysgir llawer am yr hen Gymry trwy eu darllen. Hoff oeddent hwy o goelio pethau rhyfedd. Credent mewn hud (magic), a lledrith (illusion). Un tro, gwelwyd llawer o lygod mewn cae ŷd, a daliwyd un ohonynt. Beth oedd honno ond gwraig esgob, wedi ei rhithio (changed in form). Dro arall, gwnawd merch ieuanc, un o'r rhai tecaf yn yr holl fyd, o flodau. Ei henw oedd Blodeu-wedd. Ymhen amser, trowyd hi'n aderyn-yn Ddyllhuan (owl). Tarawyd dau ŵr ieuanc â hud-lath (magic wand) nes eu gwneud yn ddau garw; ac felly yn y blaen. Yn y Mabinogion y dysgir hanes Arthur a'i filwyr. A hwy