yw hanesion hynaf ein gwlad. Pwysig yw i blant Cymru eu myfyrio, canys iaith dlôs yw iaith y Mabinogion, Cymraeg pur, swynol.
Arfer yr Ysgol yw cynnal cyfarfod adrodd a chân bob prynhawn Gwener; a dyna'r adeg y bydd yr athro yn adrodd yr hen chwedlau.
MR. G.—Yn yr hen, hen amser gynt, yr oedd brenin yr ynys hon yn eistedd ar graig Harlech. Ei enw oedd Bendigaid Frân. Eisteddai tri o'i frodyr a'i lu gydag ef. Enwau ei frodyr oedd Nisien, Efnisien, Manawyddan. Gŵr ieuanc da oedd Nisien, yn caru heddwch; eithr dyn drwg, anheddychol, oedd Efnisien.
A hwy'n edrych dros y môr, gwelodd un o'r cwmni lawer o longau yn cael eu gyrru gan y gwynt tuag atynt. Awd i waered at y môr i ofyn neges y dieithriaid. Pan ddaeth y llong flaenaf at y lan, gwelwyd fod arwydd heddwch, sef tarian a'i swch (boss) i fyny, yn cael ei dangos. Clywodd y brenin, oddiar ben y graig, y llongwyr yn cyfarch gwell iddo, a gofynnodd pwy oedd biau'r llongau. Atebwyd iddo mai eiddo Matholwch, brenin yr Iwerddon, oeddent; a darfod iddo groesi'r môr i geisio Branwen, chwaer Bendigaid, yn wraig. Branwen oedd y ferch decaf yn yr holl fyd.
II.
Gwnawd gwledd fawr i groesawu Matholwch, brenin yr Iwerddon, a threfnwyd yn y cyngor drannoeth fod Branwen i briodi Matholwch yn Aberffraw. Awd