Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Ysgol Gymraeg.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tuag yno, Matholwch a'i wŷr yn eu llongau, a Bendigaid Frân a'i lu ar hyd y tir. Yn Aberffraw bu gwledda mawr. Mewn pebyll y bu'r wledd. A wyddoch paham? Am fod Bendigaid yn gawr mawr o ddyn; nis gallai fynd i mewn i dŷ cyffredin. A'r noson honno y priodwyd Matholwch a Branwen.

Ni ddywedwyd wrth Efnisien, y brawd drwg, am briodas Branwen. Un diwrnod, daeth Efnisien i Aberffraw a gwelodd feirch Matholwch; gofynnodd eiddo pwy oeddent. Pan eglurwyd iddo mai eiddo brenin yr Iwerddon oeddent, a'i fod wedi priodi Branwen, ei chwaer, digiodd yn aruthr. Yna aeth i blith y meirch gan dorri eu gweflau hyd y dannedd, a'u clustiau wrth eu pennau, a'u rhawn wrth eu cefnau.

Pan glywodd Matholwch am y tro creulon, penderfynodd fynd yn ol tua'r Iwerddon. Ac efe ar gychwyn o'r llŷs, cennad a ddaeth oddiwrth Bendigaid Frân i ofyn paham yr oedd efe yn ymadael â'r llys heb ganiatad. Gofidus oedd gan frenin yr ynys hon glywed am y dirmyg. A rhoddodd i Fatholwch farch am bob march a anafwyd, ffon o arian yr un hyd ag ef ei hun, darn o aur yr un lled a'i wyneb, a phair hynod. Dyma oedd yn hynod yn y pair,—pe lleddid gŵr, gellid ei ddwyn yn fyw drachefn ond ei daflu iddo; ond nis gallai'r gŵr hwnnw siarad byth mwy. Pair gwerthfawr yn yr oes honno, a'r bobl mor hoff o ryfel, yntê?

A bu heddwch cydrhwng Matholwch a Bendigaid Frân, a gwledda a wnaethant y dydd hwnnw hefyd.