Drannoeth, cychwyn a wnaeth Branwen a'i gŵr o Aber Menai tua'r Iwerddon. Croeshawyd hwynt yn fawr; anrhegion gwerthfawr, yn fodrwyau a thlysau, a roddwyd gan Franwen i bobl yr ynys honno. A bu'n fawr ei pharch y flwyddyn gyntaf. Ganwyd mab iddi a galwyd ef Gwern. Yr ail flwyddyn bu sôn lawer am y dirmyg a gafodd Matholwch yn Ynys y Cedyrn,- hen enw ar yr ynys hon,-a gwawdiwyd y brenin gan ei frodyr nes ei orfodi i ddial y cam. Gyrrwyd Branwen o ystafell y brenin i fyw yn y gegin. Gwnawd hi yn gogyddes y llŷs; a phob bore, wedi iddo dorri'r cîg, yr oedd yn rhaid i'r cigydd roi bonclust iddi.
III.
Ond, er yn garcharor, ac yn cael ei gwylio'n ofalus, yr oedd gan Franwen un cyfaill bach, sef oedd hwnnw, deryn drudwen (starling). Tra yr oedd hi'n coginio, safai yr aderyn bach ar ymyl y noe (pan). Dysgodd Branwen i'r aderyn siarad, a dywedodd wrtho am ei brawd mawr, oedd yn frenin ar Ynys y Cedyrn. Eglurodd iddo sut un oedd Bendigaid Frân, a pha le yr oedd yn byw. Yna ysgrifennodd lythyr a'i ddodi yn rhwym wrth fôn asgell yr aderyn, ac archodd iddo fynd i chwilio am ei brawd, y cawr.
Daeth yr aderyn trosodd i'r ynys hon, a disgynnodd ar ysgwydd y brenin, gan ysgwyd ei adenydd. Gwelodd Bendigaid Frân y llythyr a darllenodd ef. A drwg oedd ganddo glywed am boen Branwen, ei chwaer.