CANU PENHILLION.
YN yr hen amser gynt, yr oedd y bardd a'r telynor yn swyddogion uchel ym mhlasau tywysogion Cymru, a chroesawid hwynt yng nghartrefi uchelwyr pan ar eu tro ar hyd a lled y wlad. Un o'r beirdd crwydr hynny oedd Dafydd ab Gwilym; ac fel yntau, felly hefyd y gwelid telynorion yn diddanu aelwydydd gwychaf Gwlad y Gân yn y gorffennol pell.
Collwyd prif noddwyr y delyn pan y diflannodd y tywysogion o'r tir, ac y dodwyd Cymru o dan iau Lloegr. Trodd y bardd yn faledwr pen ffair, a gwnaeth y delyn ei chartref yn y dafarn. Ond y mae tro ar fyd; daw offeryn cerdd ein cenedl, yr hen delyn anwyl, i fri unwaith eto.
Dywed plant yr Ysgol Gymraeg fod adeg gerllaw pan y gwelir telyn Cymru ym mhob tŷ yn yr ardal. Hyhi sydd ar lwyfan yr Ysgol, nid perdoneg; hefyd, y mae amryw o delynau yn y Pentre yn barod, a gall llawer o'r plant ganu penhillion, neu ganu gyda'r tannau.
Sut y dysgodd y plant ganu hen benhillion anwyl Cymru Fu?
Fel hyn. Yr oedd gŵr yn byw heb fod nepell o'r ysgol, a chanddo delyn. Telynor medrus oedd, a cherddor coeth. A phan dyfodd ei feibion yn ddigon hen i ddechreu ar y gwaith, dysgodd y gelf o ganu'r delyn iddynt hwythau hefyd; a daeth dau ohonynt yn delynorion gwych. Bu un ohonynt yn canu'r