delyn gerbron y frenhines Victoria. A wyddoch pwy oedd? Wel, tad Rhys, un o fechgyn yr Ysgol. Y mae tair telyn yn yr hen gartref erbyn hyn, a medr pob un o'r plant dynnu seiniau pêr o dannau'r delyn, a chanu penhillion yn ddiguro.
Meddai Rhys wrth dwrr o blant un diwrnod,—
"Faint o honoch chwi all ganu penhillion?"
Yr oedd un bychan bach yn credu y gallai ef ond cael hamdden i geisio.
"Wel, o'r goreu, ynte, beth pe baem ni yn dechreu dysgu ein gilydd? Mi fum yn meddwl lawer gwaith mai nid tro ynfyd fyddai ffurfio dosbarth i ddysgu canu penhillion."
A meddai Ifor,—"Y peth, Rhys, ar ei ben. Bob tro y clywaf ganu gyda'r delyn, byddaf yn mynd yn gacwn gwyllt o eisieu dysgu. Clywais dy dad wrthi neithiwr, ac un o'th frodyr yn canu; a bum yn gwrando tu allan i'r tŷ am awr gron. Carwn ddysgu o'm calon. Yr hen gyfaill, ddeui di yn arweinydd arnom ni? Yr wyt ti yn hen law bellach ar y gwaith."
"Gwnaf ar unwaith, canys credaf y dylid dysgu cynifer o'r hen benhillion ag sydd bosibl. Hwynt-hwy fu'n diddanu hen blasau ein cyndadau; a gwaith rhagorol fydd eu dwyn yn ol i'n haelwydydd i ddiddori ein rhieni, a'n brodyr a'n chwiorydd. Gwnawn lawer o les i bawb o'n cwmpas; cawn dreulio llawer o oriau mewn gwir fwyniant; a mwy na'r cwbl, helpwn i godi y delyn i fri mawr unwaith yn rhagor. Go ryfedd