fyddai gweld telyn ym mhob tŷ yn y Pentre, yntê? Cawn weld beth ddaw o'r cynnyg."
Awd ati drannoeth. Balch iawn oedd yr athro pan aeth dau o'r bechgyn ato i ofyn ei ganiatad i gyfarfod ar lwyfan yr ysgol ar ol gwaith y dydd. Cydsyniodd gyda phob parodrwydd; ac yn aml gwelid ef yn eu plith yn cefnogi y mudiad. A bu'r bechgyn yn dal ati am rai wythnosau, nes o'r diwedd iddynt ddod yn hyddysg yn y gelf o ganu gyda'r delyn.
Cododd ysbryd cystadlu yn eu plith, a phenderfynnwyd cael cystadleuaeth canu penhillion ar y Dygwyl Dewi canlynol. Ac felly y bu.
A dyma ychydig o hanes yr wyl honno. Rhys oedd y telynor, ac eisteddai'r ymgeiswyr ar gadeiriau yn hanner cylch o'i flaen. Yn ol y rheolau yr oedd Rhys i daro alaw ar y tannau, a'r ymgeisydd cyntaf ar y dde i godi a chanu penhillion ar yr alaw honno. Yna, yr oedd y telynor i newid yr alaw, a'r ail ymgeisydd i ganu ar yr ail alaw. Ac felly yn y blaen. Newid alaw, a chanu penhillion yn gweddu bob tro. Yn awr, canai Rhys yr alaw ar y delyn unwaith trwyddi cyn i'r canwr penhillion ddechreu, er mwyn rhoi hamdden iddo chwilio am bennill neu ddau. Aeth popeth yn hwylus y tro cyntaf a'r ail dro; ond ar y trydydd cynnyg, methodd ymgeisydd gofio am bennill yn gweddu i'r alaw, ac allan ag ef o'r gystadleuaeth. Erbyn y pumed tro, nid oedd ond dau yn aros, ac ar y chweched deuwyd o hyd i'r goreu o'r holl ymgeiswyr.