A dyma rai o'r penhillion a ganwyd gan y bechgyn,—
ALAW,—Hob y deri dando.
"Hawdd yw dwedyd, 'Dacw'r Wyddfa,'
Hob y deri dando;
Nid eir trosti ond yn ara';
Dyna ganu eto.
Hawdd i'r iach a fo'n ddi—ddolur,
Sian, fwyn Sian,
Beri i'r claf gymeryd cysur,
Sian fwyn, tyrd i'r llwyn,
I seinio'n fwyngu, Sian fwyn."
ALAW,—Codiad yr Hedydd.
"Dyn a garo grwth a thelyn,
Sain cynghanedd, cân, ac englyn,
A gâr y pethau mwyaf tirion,
Yn y nef ymhlith angylion.
"Cleddwch fi pan fyddwyf farw,
Yn y coed dan ddail y derw!
Chwi gewch weled llanc penfelyn
Ar fy medd yn canu'r delyn."
ALAW,—Tôn y Melinydd.
"Mi fum yn gweini tymor
Yn ymyl Ty'n y Coed,
A dyna'r lle difyraf
Y bum i ynddo erioed.".
ALAW,—Pant Corlan yr Wyn.
"Mae yn y Bala flawd ar werth,
Mae'n Mawddwy berth i lechu;
Mae yn Llyn Tegid ddŵr a gro,
Yn Llunden ô i bedoli:
Ac yng nghastell Dinas Brân
Ddwy ffynnon lân i 'molchi."