telyn, troell nyddu, cannwyll frwyn; hefyd, Beibl dros dri chan mlwydd oed; gefail gŵn, a llawer o bethau cyffelyb. O'r hen eglwys, eglwys y llan, y cafwyd benthyg yr efail gŵn; defnyddid hi i fynd a'r cŵn aflonydd allan o'r eglwys. Ac nid cyflawn y disgrifiad heb son am gadeiriau beirdd y Pentre. Yr oedd pob cadair Eisteddfod drwy'r fro wedi eu casglu at ei gilydd, a'u hanes wedi ei gerfio arnynt; a phob baton a enillwyd gan arweinwyr corau'r cylch. Pwy ŵyr faint o les a fydd o arddangos tlysau y brwydro a fu?
II.
Un o'r mwyniannau coethaf bob Dygwyl Dewi yw araith Mr. Gwilym. Araith wlatgar i ennyn y tân Cymreig! Ei destun y llynedd oedd,—"Dewi Sant a'r Ysbryd Cymreig."
A dyma i chwi gyfran fechan o honi,—
"Afraid fyddai adrodd manylion bywyd Dewi Sant wrth blant y Pentre. Gwyddoch i gyd pwy ydoedd, enwau ei rieni, ple y magwyd ef, pa fath ddisgybl oedd, a'r traddodiadau gysylltir â'i enw. Yr hyn sydd bwysig i ni ei gofio yw mai dyn da a duwiol oedd Dewi, Cymro o waed ac o iaith. Carai ddŵr yn hytrach na gwin, a charai ei wlad â'i holl galon; a gwnaeth ei oreu i wella cyflwr Cymru. A gweddus yw fod Cymru o ben Caergybi i ben Caerdydd, a'i phlant sydd oddicartref mewn gwledydd tramor, yn coffa heddyw am Ddewi Sant, gan ei arddel yn nawdd Sant ein cenedl.