Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Ysgol Gymraeg.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ysbryd gwerth ei efelychu oedd ysbryd Dewi, a saif ei enw dros bopeth goreu a feddwn fel Cymry. Pan y clywir enw Dewi, cyfyd darlun o flaen ein llygaid, sef darlun o Gymro ar ei oreu. Clywsoch lawer o son am y tân Cymreig. Wel, dyna enw arall ar ysbryd Dewi Sant. Yr un un ydynt.

"Y tân Cymreig fu'n cyffroi Caradog, Buddug, Llywelyn, a Glyndwr i amddiffyn eu gwlad. Enw arall arno yw cariad dros Gymru. Dro arall, câr Dewi heddwch yn well na rhyfel, a daw Hywel Dda a'i gyfreithiau i gadw heddwch drwy atal cam. Cofier nad yw gwir Gymro yn ymladd ond pan y mae'n rhaid arno. 'Gwell angeu na chywilydd.' Ysbryd Dewi a gâr heddwch, ac a fynn gyfiawnder. Nid oes cywilydd o gofio'r dyddiau a fu. Byddwn falch o'n cyndadau.

III.

"Pan ddodwyd Cymru o dan iau Lloegr, yn raddol collwyd yr iaith Gymraeg o blasau'r uchelwyr. Collwyd hefyd y bardd a'r telynor o aelwydydd gwyrda ein gwlad. A gwelwyd adeg ddu ar Gymru am gyfnodau maith. Truenus oedd y cyflwr pan oedd John Penry yn blentyn bach ar fynydd Eppynt. Wedi o hono dyfu'n ŵr ieuanc, aberthodd lawer dros ei wlad, a bu farw dros y gwir.

'Mil gwell yw marw'n fachgen dewr
Na byw yn fachgen llwfr.'