Felly, gwelir nad oedd y tân Cymreig wedi diffodd yn llwyr, cedwid ef yn fyw ym mynwes ambell un yma a thraw. Ysgrifennodd Penry lawer at y rhai oedd mewn awdurdod i erfyn am Feibl Cymraeg i Gymru. Ac wedi ei farw, cyfieithwyd Gair Duw i'n hiaith ni gan yr Esgob Morgan, ac ereill. Y frenhines Elisabeth archodd wneuthur hynny, a hi'n wyres i Harri Tudur, Cymro o waed ac o iaith.
"Hwyrach mai dyna'r digwyddiad mwyaf pwysig yn hanes Cymru, sef dyfod o'r Beibl i'n gwlad ni yn iaith yr aelwyd.
"Yna daeth Gruffydd Jones, Llanddowror, â'i ysgol deithiol. Teimlai y dyn da hwnnw dros ei wlad yn ei chyflwr di-grefydd, anwybodus, a dechreuodd gynnal ysgolion i ddysgu'r bobl i ddarllen, i ddarllen y Beibl, cofier, canys dyna unig lyfr yr ysgol honno. A pha lyfr gwell? Aeth y gwaith ar led. Dywedai Penry nad oedd ond un o bob cant, yn ei oes ef, yn medru darllen, a'r wlad mewn cyflwr moesol truenus; ond drwy aberth fawr Gruffydd Jones, aeth yr un o bob cant yn gant ond un, canys yr oedd pob disgybl yn troi yn athro i ddysgu ereill.
"Bu un o'r ysgolion teithiol yn y Pentre, ac arhosodd yma am dri mis; yna galwyd yr athro ymaith i sefydlu ysgol mewn pentref cyfagos. Cofiwch y ffeithiau a nodwyd, canys i hyn yr ydym yn ddyledus am gyflwr gwell Cymru Lân, Gwlad y Gân, a Gwlad y Menyg Gwynion.