DOETHINEB CENEDL Y CYMRY.
I.
GOFYNNODD Arthur i Mr. Gwilym pwy oedd wedi cadw hen farddoniaeth a hanes yr hen Gymry rhag mynd ar goll. Meddai yntau,—
"Nid oedd llyfrau ar gael yn yr hen hen amser gynt. Cedwid holl ddysg y genedl ar gôf. Adroddid yr hen ddysg o genhedlaeth i genhedlaeth, ac felly y cadwyd gafael ar yr hen ddywediadau swynol sydd yn eiddo i ni. Ymhen amser, daeth y mynachod i Gymru, a chofnodwyd ganddynt weithiau yr hen feirdd; brutiau, sef ysgrifau hanes; a doethineb y Cymry. Dinistriwyd y mynachdai yn amser Harri'r VIII., a chollwyd golwg ar yr hen ysgrifau am gyfnod maith; ond yr oedd cryn nifer ohonynt wedi eu trysori ym mhlasau y wlad; ac, ar ol hyn, bu ambell un yma a thraw yn casglu yn ddyfal o'r hen drysor. Yn y ddeunawfed ganrif daw enwau tri o rai gwlatgar i'r amlwg, dynion a wnaethant lawer o ddaioni trwy wneud un casgliad mawr o'r ysgrifau oedd ar gael. Cymro cyfoethog yn Llundain oedd Owen Myfyr; ysgolor gwych o Forgannwg oedd Iolo; a'r trydydd oedd Dr. W. O. Pughe, awdur geiriadur mawr o dros gan mil o eiriau,—gymaint arall a geiriadur Dr. Johnson. Tri Chymro pybyr a'u calon yn y gwaith; a diwedd y chwilota, ar hyd a lled y wlad, am yr hen ysgrifau, yw y gyfrol fawr o dros fil o dudalennau a elwir yn "Myvyrian Archaiology."