hwynt; a'r Arglwydd Rhys a holl Ddeheubarth gydag ef; ac Owen Cyfeiliog a Iorwerth Goch, fab Meredydd, a Meibion Madog, a holl Bowys gyda hwynt. Ac i gyd gyda'i gilydd y daethant hyd yn Edeirnion, a phabellu yng Nghorwen. . . ."
2. Y TYWYSOGION YN CWERYLA,—hen wendid ein gwlad yn yr oesau a fu.
"Y flwyddyn ganlynol y cyfeiriodd Owen a meibion Gruffydd ab Cynan o Wynedd, a'r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth yn erbyn Owen Cyfeiliog; ac a ddygasant gastell Einion, a'i roddi i Owen Fychan. . . ."
3. LLYWELYN A BRENIN LLOEGR.
"Deng mlynedd a deugant a mil oedd oed Crist pan ddug Llywelyn ab Iorwerth gyrchau creulon am ben y Saeson; ac am hynny y llidiodd Ieuan frenin; a darparu i ddwyn holl gyfoeth Llywelyn oddiarno. A chynnull dirfawr lu a wnaeth ar fedr myned i Wynedd i wneud y distryw. A Llywelyn a'i lu a aethant i'r berfedd—wlad, a'r da gyda hwynt, hyd yn Eryri. Ac yna y daeth y brenin a'i lu hyd yng nghastell Deganwy. Ac yno y bu cymaint eisieu bwyd ar y llu fel y gwerthid wy am geiniog a dimai, a gwledd foethus oedd ganddynt gael cig meirch. Ac am hynny y dychwelodd y brenin i Loegr o amgylch y Sulgwyn, a'i neges yn amherffaith, wedi colli yn waradwyddus lawer o'i wŷr, a'i dda."
4. Un adran arall o'r hen Frut, sef ychydig o hanes Rhyfeloedd y Groes, a'r brenin Rhisiart,—
"Aeth Philip, frenin Ffrainc, a Rhisiart, frenin Lloegr, ac Archesgob Caint, a llu mawr o ieirll a barwniaid gyda hwynt i Gaersalem. Daliodd rhywun Risiart. frenin Lloegr, ac efe yn dyfod o Gaersalem, a dodwyd ef yng ngharchar yr ymerawdwr. A thros ei ollwng yn rhydd y bu treth drom dros wyneb holl Loegr. . . . ."