Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Ysgol Gymraeg.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Monthly Reader" Poblogaidd.

Anfonir MILOEDD o "Cymru'r Plant" bob mis i ysgolion, a chanmolir ef gan yr ysgolfeistri fel Monthly Reader sydd yn denu sylw ac yn ennyn diddordeb y plant yn y wers.

CYMRU'R PLANT:

Misolyn i Blant Cymru. Ei amcan yw ennyn gwladgarwch plant trwy agor eu llygaid ar hanes, llenyddiaeth, a llên gwerin eu gwlad. Llawn o Ystorian a Chwedlau wedi eu casglu mewn llawer gwlad; Hanes Cymru; Hanes Gwledydd Tramor; Anturiaethau; Hanes Adar, Anifeiliaid, Pysgod; Hwiangerddi; Darnau i'w hadrodd; Dadleuon; Tonau, &c., &c. Darluniau rhagorol. Pris, CEINIOG YN Y MIS.

CYNHWYSIAD UN RHIFYN.

Edrych Ymlaen; Gŵg a Swyn y Gaeaf; Ffedog y Gôf (Ystori); Dadl i'r rhai bach; Ty'n y gwrych (Ystori); Byddin Cymru; Mewn Gwledydd Pell; Brwydr yr Amwythig; Y Llyn; Ar y Ffin; Chili; Dychryn y Corsydd (Ystori Rhyfel); John'r Hafod (8 o Straeon digrif); Dafydd a'i Galennig (Ystori). Darnau Adrodd, &c. :-Ymlaen; Heddwch; Myfyrion Pen Tymor Telyn Plentyn Bach; Cymydog Da yw Clawdd; Robin Goch; Ffoedigion Belgium. Deuawd i Blant, S. ac A.,-"Cloch yr Ysgol," yn y Solffa, a 5 o Ddarluniau.

Gwelir oddiwrth y cynhwysiad uchod mor amrywiaethol a diddorol yw cynnwys y misolyn, ac nid yw'n rhyfedd fod y plant yn ei hoffi ac yn edrych ymlaen o fis i fis am ei rifynnau.

Barn y Wasg. "Mae Cymru'r Plant yn batrwm o gylchgrawn plant, gyda'i stori a'i ddarlun a'i gân. Cymwynas fawr à phlant ein hysgolion fyddai rhoddi drws agored iddo ym mhob ysgol."

Bydd yn bleser gan y Cyhoeddwyr anfon specimen i unrhyw Ysgol-feistr ar dderbyniad cerdyn.

Cyhoeddir "CYMRU'R PLANT" hefyd yn gyfrolau blynyddol, pob cyfrol yn cynnwys 376 t.d. Llian, 1/6. Dylai y cyfrolau hyn fod yn llyfrgell pob Ysgol Dydd a Sul. Ni flina y plant eu darllen. Cadwant eu swyn a'u diddordeb.


HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, GWRECSAM.