Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Ysgol Gymraeg.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TESTYN LYFRAU CYMRAEG
I Ysgolion Dydd, Ysgolion Sir, Ysgolion Nos, a Chymdeithasau Llenyddol.

AWDL DINISTR IERUSALEM: gan EBEN FARDD. Ynghyda Hanes Bywyd Eben Fardd ; Ymdriniaeth Feistrolgar ar Fesurau a Chynghaneddion yr Awdl; Hanes y Dinistr; a Geirfa fanwl, yn cynnwys pob gair o'r Awdl. Golygwyr, J. LIAS DAVIES, Gwrecsam, a T. CARNO JONES. Llian, 9c. "Argraffiad rhagorol iawn. Anodd fyddai taro ar well gwerslyfr i ddosbarth o bobl ieuainc ddeallus, mewn tref neu bentref."—Proff. J. Morris Jones, M.A.

PERLAU AWEN ISLWYN: Wedi eu dethol a'u golygu gan J. M. EDWARDS, M.A. Gyda Nodiadau, Geirlechres, a Darluniau. Llian, 1/3. "Casgliad cyfoethog, heb ry nac eisiau, o Berlau Awen Islwyn."—Silyn.

CYMRU: fel ei Desgrifir gan Islwyn. Wedi eu dethol a'u golygu gan O. M. EDWARDS, M.A. Gyda 40 o Ddarluniau. Llian, 1/ "Gwnaeth Cân Islwyn lawer o ddaioni i feddwl Cymru, a gwna lawer o ddaioni eto i feddwl oesoedd heb eu geni." O'r Rhagymadrodd.

CEIRIOG: Wedi eu dethol a'u golygu gan O. M. EDWARDS, M.A. Llian, 1/ Detholion o rai o ddarnau telynegol goreu ein prif-fardd. Argraffiad Newydd.

CEIRIOG A MYNYDDOG: Wedi eu dethol a'u golygu gan J. M. EDWARDS, M.A. Gyda Bywgraffiadau byrrion, Cynllun Wers i Athraw a Disgybl, Geirfa helaeth a Darluniau. Llian, 1/3. "Dyma lyfr i ennyn serch plant Cymru at farddoniaeth Gymraeg."—Proff. J. Morris Jones, M.A.

CARTREFI CYMRU: Gan O. M. EDWARDS, M.A. Gyda Darluniau. Argraffiad Newydd gyda Geirfa. Llian, 1/- Cartrefi Cymru' is in Mr. Edwards' best style—light, graceful, informed with glowing patriotism. Each account is admirable."—Manchester Guardian.

CYMRU FU: Casgliad diguro o Len Gwerin Cymru. 494 t.d., Llian, 2/- Hefyd, mewn 3 o Lyfrau, Llian, 9c. yr un. Ystyrrir hwn yn un o lyfrau safonol Cymru, ac y mae wedi ei ddewis dro ar ol tro fel Llawlyfr i Arholiadau Colegau, Ysgolion, &c.

MABINOGION (O Lyfr Coch Hergest): Golygwyd gan J. M. EDWARDS, M.A. Yn cynnwys Pwyll, Pendefig Dyfed Branwen Ferch Llyr; Manawyddan Fab Llyr, a Math Fab Mathonwy. Gyda Darluniau. Llian, 1/-

MABINOGION (O Lyfr Coch Hergest): Ail Lyfr. Golygwyd gan J. M. EDWARDS, M.A. Yn cynnwys, Peredur ab Efrog, Breuddwyd Rhonabwy, Lludd a Llefelys, a Hanes Taliesin. Gyda Darluniau. Llian, 1/-