HWIANGERDDI ETO.
TRANNOETH, aeth Mr. Gwilym i ymweld â'r Ail Safon. Yr oedd wedi mwynhau ei hun gymaint gyda'r Safon I. y dydd blaenorol nes ei wneud yn awyddus am glywed ychwaneg o'r hwiangerddi. Dywedodd hanes y wers ddiddorol honno wrth y dosbarth hwn, gan ganmol y plant bach. Yna, gofynnodd i'r plant adrodd rhai o'r hen ganeuon. Yr oedd tua dwsin yn barod ar unwaith. Hawdd oedd gweld nad oedd y dosbarth yn foddlon i'r Safon I. eu curo am adrodd.
MR. GWILYM.—Mi ddechreuwn gyda Blodwen.
BLODWEN.—
"Mae'n bwrw glaw allan,
Ond yn dêg yn y tŷ,
A merched y Rhondda
Yn chwalu gwlan du."
MR. G.—Gwlan du yn y Rhondda! Ai nid glo ydych yn feddwl? Na, yr ydych yn hollol gywir. Nid oedd pwll glo ar gael yng Nghwm y Rhondda yr amser hwnnw. Y mae'r hen gân yn hŷn na phyllau glo y "cwm cul fel cam ceiliog."
DAFYDD.—Pan fyddwn yn fachgen drwg, arferai Sian y forwyn ddweyd y gân hon i'm llonyddu. Byddai yn fy nychryn yn ofnadwy,—
"Jack bach y Pentre
Yn torri pennau plant;
Yn rhoi nhw mewn cwdyn,
A rhedeg a nhw bant."