Gwirwyd y dudalen hon
Rhag i'r 'deryn tô ddod iddo:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.
Wennol bach, paham diengi
Draw oddiwrthyf? Paid ag ofni:
Aros, bydd yn gyfaill imi—
'Rwy'n dy garu di.
Credu 'rwyf fod gennyt galon
Bur, ddiniwed, gywir, ffyddlon—
Peth anfynych ymhlith dynion;
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.
Mae'th ddyfodiad, addfwyn wennol,
Ini'n dysgu gwersi buddiol,
Ar bob tymor yn olynol,
Yr ymweli â ni.
Wyt yn adwaen dy dymhorau,
Ac yn cadw dy amserau,
"Cymrwch rybudd, gwnewch fel finnau,"
Ydyw'r llais ymhob twi, twi.
Dyna gamp a ddysgi eto—
Cadw'th wisg yn lân a chryno,
A thithau'n trin y clai a'i ddwbio
Wrth wneud dy waith.
Hoffwn innau ddysgu honno—
Trin y byd a myned trwyddo,
Heb halogi'm gwisgoedd ynddo,
Na rhoi arno'm calon chwaith.