Gwirwyd y dudalen hon
PAN DDAW YR HAF.
Un o ganeuon Mynyddog.
PAN ddaw yr haf a'i dyner hin
I lonni bro a bryn,
Cawn drwsio bedd y gaeaf blin
A blodau gwyrdd a gwyn;
Cawn weled myrdd o egin mân
Yn tyfu'n ngwres yr haul,
A chlywed cân yr awel lân
Ar dannau'r delyn ddail:
Cawn gasglu blodau hyd y glyn,
A rhodio'r dyffryn dir,
A chanu marwnad gaeaf gwyn
Ar goryn clogwyn clir.
Daw'r hâf i dynnu newydd gân
O dannau cangau'r coed,
Lle sang yr hâf mae meillion mân
Yn tyfu'n ôl ei droed;
Prydferthwch wisga am ei ben,
A'i ddwylaw'n llawnion sydd,
Ac ar ei fron mae'r lili wen
Mor deg a gwawr y dydd.
Cawn gasglu blodau, &c.