chwareu â'r asynod, wrth ddal crancod, a thra yn casglu cregin a cherrig gwynion.
WILLIAM.—Ie, yn wir, Iorwerth. Beth sy'n fwy pleserus na chwareu yn y tywod? Hwyl iawn yw gwneud castelli.
ARTHUR.—Ond y mae mwy o le i chwareu yn y wlad.
ESTHER.—Na, nid wyf yn credu fod mwy o le i chwareu yn y wlad. Beth am y traeth eang, a'r parciau a'r gerddi blodau?
ARTHUR.—Ie, ond y mae'n rhaid talu am fynd i bobman ar lan y môr.
ESTHER.—Ni raid talu am fynd i'r parciau a'r gerddi blodau, ac y mae'r traeth yn rhydd i bawb.
ARTHUR.—Wel, lle i fabanod yw'r tywod. A ydych yn disgwyl i blant mawr fel nyni fwynhau ein hunain gyda'r babanod yn y tywod?
ESTHER.—Gobeithiaf nad ydych wedi tyfu gormod i helpu eich chwaer fach, Arthur. Y mae llawer o fwyniant i'w gael drwy helpu ereill. Bu rhywrai yn gofalu am danom ni, a ni eto yn rhy fychain i ofalu am danom ein hunain, a dylem gofio hynny.
MR. G.—Da iawn, Esther. Wel, William, beth sydd ar eich meddwl? Gwelaf fod arnoch eisieu dweyd rhywbeth.
WILLIAM.—Carwn wybod dau beth, Mr. Gwilym. O ba le y daeth y tywod? Hefyd, i ba le yr a'r môr pan yr a allan ymhell oddiwrth y lan?"