Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Ysgol Gymraeg.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

LLYTHYR O'R WLAD.

LLAWR Y CWM,
DYFFRYN MWYN,
Awst 12fed.

ANWYL FYRDDIN,
Prysuraf i ysgrifennu gair bach atat, yn ol fy addewid, gan obeithio eich bod oll yna yn iach, ac yn treulio amser difyr iawn. Yr wyf fi wrth fy modd, ac nid oes arnaf ddim hiraeth hyd yn hyn.

Gresyn na fuaset yma gyda mi,—ond hwyrach dy fod tithau yn meddwl yr un fath am y lle yna. Mi weli nad wyf wedi anghofio ein dadl yn yr ysgol y dydd o'r blaen. Ond, i ddweyd fy hanes.

Y mae fy ewythr wedi prynnu merlyn bach du, ac yr wyf ar ei gefn bob dydd. Bob yw ei enw; ac y mae ef a minnau'n gyfeillion mawr. Ar ol iddo gael darn o siwgr gennyf, aiff ar garlam gwyllt. Ar y dechreu yr oedd arnaf ei ofn; ond, erbyn hyn, goreu po gyflymaf yr a.

Bum ar ei gefn i'r farchnad y Sadwrn diweddaf. Y mae tair milltir o ffordd i Aberteg, a lle rhyfedd sydd yno, prynnu a gwerthu pob math o bethau,—ceffylau, gwartheg, moch, defaid, troliau, cerbydau, gwlanen, a chant a mil o bethau ereill. Gwerthodd fy ewythr dair buwch, a phrynnodd ddau geffyl a phum dafad. Cawsom hwyl fawr drwy'r dydd, ac yr oedd yn agos i ddeg o'r gloch arnom yn cyrraedd yn ol.