Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Ysgol Gymraeg.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Beth sydd erioed, ac nid yw eto ond mis oed? Y Lleuad.

Beth sydd yn y môr, nad yw yn y tir;
Nid yw yn y clawdd, y mae yn y ffôs;
Nid yw yn y cae, y mae yn y rhos;
Nid yw yn y fuwch, y mae yn y llo? Y llythyren O.

Doniol oedd rhai o'r atebion, a mawr y chwerthin a glywid yn llenwi y lle.

"Wel," meddai Rhys, "y mae gen i ofyniad mwy dyrus na'r un o'r rhai yna."

"Beth yw ef?" gofynnai Llywelyn.

"Dyma fe,—Yr oedd gan ddyn lwynog, gŵydd, ac ysgub o geirch i fynd dros afon. Nis gallai fynd a dim ond un ar y tro. Pe buasai yn mynd a'r llwynog drosodd yn gyntaf, buasai'r wydd yn bwyta'r ceirch; pe buasai yn mynd a'r ceirch, buasai'r llwynog yn lladd yr ŵydd. Pa fodd yr aeth trosodd heb golli yr un?"

Nis gallai yr un ohonynt ateb yn gywir, er i un neu ddau geisio ei oreu. O'r diwedd, cafwyd yr atebiad gan Rhys ei hun. A dyma'r atebiad,—

"Aeth a'r ŵydd trosodd yn gyntaf, ac aeth yn ol i geisio'r llwynog, ac aeth ag ef trosodd. Aeth a'r ŵydd yn ol drachefn pan yn ceisio'r ceirch, ac aeth a'r ceirch trosodd. Ac yn olaf, aeth i geisio'r wydd."