HANES CYMRU.
(Seiliedig ar "Hanes Cymru," Syr Owen M. Edwards, M.A.)
I. DYSGU HANES CYMRU.
YN awr ac yn y man, ymwêl y prif athro â dosbarth i arholi y plant yn hanes eu gwlad. Hanes Cymru yn gyntaf, hanes Lloegr yn ail,—dyna ddull dysgu hanes yn yr Ysgol Gymraeg. Gŵyr y plant fwy am Glyndwr nag a wyddant am William the Conqueror. Cyn dysgu hanes deddfau Harri'r Cyntaf, y maent wedi clywed am gyfreithiau Hywel Dda. A dyna'r rheswm paham y carant eu gwlad gymaint,—y maent yn hyddysg yn ei hanes. Anodd yw parchu gwrthrych nas gwyddir dim am dano. A cham mawr â phlant Cymru yw dysgu iddynt hanes gwledydd estronol, a hwy eto yn amddifad o hanes eu cartref eu hun.
Teimla pob un o blant yr ysgol hon mai anrhydedd mawr yw bod yn Gymro o waed coch cyfan. Plant balch o'u gwlad ydynt, gan gofio eu haniad o'r Iberiad a'r Brython. Teimlant mai gwyrda y wlad ydynt.
Awn ymlaen at y dosbarth i glywed yr holi a'r ateb. Gwrendy y plant yn astud, tra y mae'r prif athro yn holi.
II.—YR IBERIAD A'R CELT.
MR. GWILYM.—Ie, yr Iberiad bach ddaeth i Brydain gyntaf. Sut un oedd efe, William?