Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Ysgol Gymraeg.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HYWEL.—Do, syr. Y Gwyddyl ddaeth trosodd gyntaf, yna y Brythoniaid.

MR. G.—O ba le y daeth yr Iberiaid a'r Celtiaid?

HYWEL.—Crêd ysgolheigion iddynt ddyfod ar draws Ewrob o'r dwyrain pell.

MR. G.—Sut y gwyddom hanes y cenhedloedd hyn? Ymgomiwn yn awr am bobl oedd yn byw ym Mhrydain cyn dechreu hanes. Awn yn ol am gyfnodau maith hyd adeg pan nad oedd son, hyd yn oed, am dorri llythrennau ar garreg neu femrwn.

IORWERTH.—Weithiau, deuir ar draws beddau ar lethrau'r mynyddoedd. Bedd hir yr Iberiad a bedd crwn y Celt. Hefyd, weithiau, gwelir olion y ddwy genedl yn yr un bedd. Dyna paham y dywedir i'r ddwy genedl uno â'i gilydd.

MR. G.—Da iawn. Ie, fel yna y dysgir hanes y gorffennol,—trwy ymchwil manwl dynion dysgedig. Chwi gofiwch mai'r Iberiad bach yw'r canwr a'r bardd sydd yng Nghymru heddyw; ac mai'r Celt roddodd i ni ein natur danbaid, anibynnol. I'r Iberiad y perthyn yr Eisteddfod, yr angladd Cymreig, y bregeth, y gymanfa ganu, a'r cyfarfod llenyddol. Ysbryd y Celt sy'n gyrru'r Cymro. ieuanc i wladychu mewn gwledydd tramor. Yno, fel rheol, llwydda mewn masnach, a gwelir ef yn aml yn rheoli gweithfeydd ei gartref newydd. Nid â chleddyf yr ymladd y Celt heddyw, eithr, yn