Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Ysgol Gymraeg.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mlynedd; ac ni orfodid ar dderwydd ymladd na thalu treth, ac, oherwydd hynny, yr oedd llawer of ymgeiswyr am y swydd.

Addolwr difefl oedd yr Iberiad bach; a pha ryfedd fod Cymry mor hoff o addoli pan y cofir ein bod yn perthyn mor agos iddo. Yr oedd y Celt yntau yn grefyddwr hefyd, eithr duwiau mwy tebyg i ddynion oedd ei rai ef. Nid yr unig Dduw a addolid gan y dyn bach du, eithr llawer o dduwiau paganaidd. Dyma enwau rhai ohonynt,—Lludd Llaw Arian, Myrddin, Llyr, Coel; a'r duwiesau Ceridwen, Olwen, ac Elen.

Byddai'r derwyddon yn aberthu bodau dynol i'w duwiau; ac ar farw rhywun lled bwysig, llosgid rhai o'i weision a chleddid arfau rhyfel ac offer ereill gyda gweddillion y marw. Paham? Er mwyn i'r marw gael gweision ac arfau at ei raid yn ei fyd newydd. A wyddoch paham yr oedd yr hen Frythoniaid mor ddewr? Am y credent fod yr enaid yn mynd o'r marw i gorff arall. Ac felly nid oedd ofn marw yn bod yn eu plith.

TUDUR.—Wel, pa bryd y daeth crefydd Crist i'r wlad hon, ynte?

MR. G.—Tua'r flwyddyn 200, yn ol un awdur. Pwy ddaeth a'r newyddion da yma gyntaf nis gwyddir. Ceir hanes Brythoniaid yn helpu mewn Cynghorau eglwysig ar y Cyfandir yn 315 a 325. Cofiwch fod