Cristionogion ym Mhrydain tua 300 mlynedd cyn i Awstin ymweld â'r Saeson paganaidd. Hen, hen yw eglwys y Cymry.
IFOR.—Beth ddaeth o'r duwiau paganaidd Lludd, Llyr, Myrddin, a'r lleill?
MR. G.—Dysgodd y Brythoniaid addoli yr unig Dduw, Creawdwr pawb a phopeth. Ar ol hyn, daeth seintiau i lenwi lle y duwiau paganaidd ym mywyd y bobl. Ceir enw aml i sant yn gysylltiedig â ffynhonnau ein gwlad, megis Dewi a Chybi. Erys enwau rhai o'r hen dduwiau hyd heddyw. Caerludd yw'r enw Cymraeg am Lundain. Dyna'r hen dduw Lludd yn dod i'r golwg. Ceir ei enw hefyd yn y gair Ludgate. A gwyddoch am yr hwiangerdd Seisnig,—
"Old king Cole was a merry old soul."
Gwelwch fod y Sais bach yn hoff o son am yr hen dduw Coel; a chofiwch mai'r un un yw Lear Shakespeare a Llyr yr Iberiad bach.
Hwyrach y ceir hamdden eto i holi hanes dull y Brythoniaid o fyw,—eu gwaith, eu cartrefi, eu harferion. Trown yn awr at helynt y Rhufeiniaid. Pa bryd y daeth Cesar a'i lu i Brydain?
IV.—RHUFEINIAID.
ARTHUR.—Y tro cyntaf, tua 55 cyn Crist.
MR. G.—Sut y bu hi arno?
ARTHUR.—Gorfu arno droi yn ol. Daeth eilwaith y flwyddyn ganlynol.