YR YSGOL CYMRAEG.
DIARHEBION.
UN bore, deallodd Mr. Gwilym fod dau fachgen bach wedi bod yn ymladd â'i gilydd. Galwodd y plant ynghyd, a dywedodd wrthynt fod yn drist ganddo feddwl fod plant yr Ysgol Gymraeg yn cweryla ac yn ymladd. Yna adroddodd yr hanesyn canlynol.
Yr oedd gan hen ŵr lawer o feibion; yr oedd y brodyr yn bur hoff o gweryla; a phoenid y tad yn fawr oherwydd y cwerylon dibaid. Un diwrnod, galwodd ei feibion ato i'w ystafell; a dododd sypyn o ffyn yn llaw yr agosaf ato, gan ofyn iddo eu torri. Er ceisio ei oreu glas, nis gallai; a rhoddodd y sypyn i'r ail fachgen. Er i hwnnw wneud ei oreu, methu a wnaeth yntau hefyd. Ac felly hefyd y gweddill o'r brodyr.
"Yn awr," meddai'r tad, "datodwch y rhaff." Wedi datod y cwlwm, rhoddwyd ffon i bob un, a gofynnodd y tad iddynt eu torri. Torrwyd hwynt yn rhwydd iawn y tro hwn. A meddai'r tad,—
"Gwelwch yn awr mai mewn undeb y mae nerth. Os byddwch yn dal i gweryla â'ch gilydd, gall pawb eich concro; eithr os byddwch fel un, nis gall neb eich trechu. Byddwch unol."