Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

78
COFIANT
Epistolau Paul, ac yn neillduol oddiwrth eiriau a
gweddiau yr Arglwydd Iesu, am i'w ddysgyblion
gael eu cadw oddiwrth ddylanwad ac yspryd y byd.
Yr oedd hi mewn gwirionedd yn dra gwahanol i
lawer o grefyddwyr da yr oes hon yn ei theimlad
tuag at y byd a'i bethau. Casai yr amcan o gasglu
cyfoeth & chasineb perffaith; ac i raddau helaeth
iawn, diystyrai y rhai oedd yn teimlo fod meddu
ychydig o dda y byd hwn yn gosod mawredd ar
ddyn, gan gredu bob amser mai gwybodaeth a
chrefydd yw yr unig bethau sydd yn alluog i wneyd
dyn yn fawr. Yr oedd wedi credu er's llawer
blwyddyn, y cài hi gymaint ag a fyddai yn angen
arni i fyned trwy y byd, ac ni theimlai unrhyw flys
am gael ychwaneg; ac fe ellir dyweyd am dani yn
y pwnc hwn-iddi "ymddiried yn yr Arglwydd, ac
ni bu arni eisieu dim daioni."
PEN. IX.
HUNAN-YMHOLIAD.
Yn ei dyddlyfr ar y dydd olaf o'r flwyddyn 1855,
cawn y nodiadau canlynol:-
"The last! the last! the last !
Oh! at that little word
How many thoughts are stirred,
That whisper of the past."
I. Past benefits received. I. Doniau aethant heibio
wedi eu derbyn :--
1. Restored health.
1. Adferiad iechyd.
2. Continued health.
2. Parhad iechyd.
3. Competence in worldly affairs.
3. Cymesuredd mewn achosion bydol.
4. Gras ataliol.
4. Restraining grace.
5. Domestic comforts.
5. Cysuron teuluaidd.