Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

84
COFIANT
And Oh! perhaps this very hand,
That peus these thoughts may be arrested,
May moulder in that silent tomb,
Where'er the busy brain is rested."
Ac felly y bu. Y mae y "Pwy a ŵyr," fyddwn
yn ddyweyd, yn aml yn troi allan yn "felly y bu,"
Yn mis Mai, ar un o du dalenau ei dyddlyfr, pan
ei hun mewn afiechyd trwm, yn gorwedd er's
misoedd yn ei hystafell, a'i chwaer, Miss Margaret
Jones yn yr un agwedd mewn ystafell arall, mewn
llawn cymaint o wendid, ac yn analluog i gym-
deithasu a'u gilydd er's tair wythnos, cawn y
cofnodau pruddaidd canlynol:-
Mai 29, 1857. Y mae fy anwyl chwaer, Margaret, ar ol
hir nychdod, wedi'ayrthio i fath o gwag angenol, 20.
Mai 30. Y mae fy anwyl chwaer, Margaret, yn ymddangos
megys yn hofran rhwng dau fyd, &c.
Mai 31. Boreu Sabboth! Daeth fy mrawd o Lundain am
haner awr wedi deuddeg, ac ysbryd fy anwyl chwaer a ollyng-
wyd am chwarter i un, i fwynhau ei Sabboth tragywyddol.
Mehefin 1. A gloomy day here-"diwrnod tywyll yma,"
ond yr Arglwydd a roddodd i mi lawer o nerth; bum yn
alluog i gymeryd fy ngolygfa ddiweddaf ar fy anwyl chwaer,
trwy gael fy nwyn mewn cadair i'w hystafell. Y mae yn awr
yn ei barch.
Mehefin 4. Diwrnod trymaidd a niwliog. Y mae y
tywydd yn cyd-weddu & fy nheimladau-fy chwaer, druan,
a'm gadawodd am byth. Rhoddwyd hi yn naear oer y
Cathedral i orphwys.
Y mae yn haws dychymygu, na desgrifio tý
galar, yn y fath amser, a than y fath amgylchiadau.
Un chwaer wedi myned; a'r chwaer arall yn gor
wedd tan afiechyd, ac mewn adeg ar yr afiechyd
hwnw, ag y byddai cyffroad o'r fath yma i'w
theimladau ya dra thebyg o droi y fantol i'r ochr
waethaf. Ond er hyn oll, nid oedd dim yn chwerw
yn y galar hwn ar ol Miss Jones. Yr oedd hi yn
ferch ieuanc grefyddol iawn; ei rhodiad manwl,
a'i chymdeithas brofiadol, yn tystio yn nghydwybod