Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

86
COFIANT
I'll watch above thy cold bed,
That no unhallowed foot,
May e'er disturb thy dwelling,
Low at you yewtree root.
And where thou keep'st thy Sabbath
Of long continued rest,
I'll count that spot the fairest,
The sweetest, and the best.
I too shall quickly follow,
And lay this aching head;
Free from all pain and sorrow,
Within my narrow bed.
Ond nid rhaid myned yn nes yn mlaen na'r 23ain
o Tachwedd, cyn cael y cofnodiad a ganlyn:-
"Yr wyf wedi cymeryd anwyd trwm, ond er hyny sethum
i'r oedfa gyhoeddus am ddeg, ac i'r ysgol am ddau. Y mae
Mr. E. wedi cymeryd fy nosbarth mewn Daearyddiaeth
Ysgrythyrol."
Cafodd adferiad i ryw fesur ar ol bod yn isel
lawer tro, ond yn awr, dyma hi yn myned i lawr i
beidio codi mwy-i lawr i hen rosydd yr Iorddonen,
i ddyffryn cysgod angeu, ac i angeu ei hunan.
Yn ystod y flwyddyn hon, trwy ryw foddion
hysbys i'r Arglwydd, llareiddiodd" ei "theimladau
crefyddol i fesur mawr. Collodd lawer o'r culni
meddwl a'r amheuaeth am ei chrefydd, er na ddaeth
unrhyw benderfyniad sicr am ei hawl yn Nghrist,
hyd o fewn tua mis i'r terfyn olaf. Ond byddai ar
amserau eto yn dra phryderus. Nid hawdd i'r
ysgrifenydd annghofio edrychiad treiddgar o'i hei-
ddo, un diwrnod, ar ei fynediad i'r ystafell. Gyda
golwg gynhyrfus iawn, a'i llygaid yn llawn o
ddagrau, cyfeiriai ei golygon cynwysfawr tuag ato,
a dywedai, "Nid ydwyf un tipyn nes yn mlaen
nag oeddwn fis yn ol, ond yn llawn gwanach. Ac
nid wyf yn barod i ymadael; y mae cylyman fy
nghalon a'r ddaear yn gryfach nag arferol, yr wyf
yn teimlo mwy o anwyldeb tuag atoch chwi a'r